Cofleidio ein gwreiddiau Cymreig

Published March 01 2019
2 minute read
Yn Peter Alan, rydym yn ystyried ein bod yn lwcus iawn.

Mae hyn oherwydd ein bod yn gwerthu tai yng Nghymru. Rydym yn gwmni Cymreig ac wedi bod yn gwmni o’r fath ers y dechrau. Ers i ni gael ein sefydlu yn 1965, rydym wedi bod yn falch o werthu tai yng Nghymru.  Mae hyn nid yn unig am ein bod yn dod o Gymru ein hunain, ond oherwydd bod Cymru’n lle ardderchog i brynu tŷ ac adeiladu bywyd.

Mae ei harddwch naturiol syfrdanol, y bobl gyfeillgar a chynnes a’i thraddodiadau cyfoethog ym meysydd chwaraeon a chelf yn golygu ei bod yn lle gwych i weithio.

Rydym yn falch dros ben ein bod ni’n cyflogi cymaint o bobl yng Nghymru, ac rydym bob amser yn ystyried cysylltu â’n gwreiddiau Cymreig. Nid yw hyn yn golygu esgus cefnogi’n unig, ac nid oes unrhyw beth yn dangos ein hysfa i gysylltu â diwylliant Cymru mwy na’n darpariaeth Gymraeg newydd.

Gwnaethom dderbyn llythyr yn ddiweddar gan gyfieithwraig wedi ymddeol a dynnodd ein sylw at y ffaith nad ydym yn cynnig unrhyw opsiynau Cymraeg ar ein harwyddion na’n gwefan.

Yn y llythyr, dywedodd: “Mae gweithwyr proffesiynol ifanc sy’n siarad Cymraeg yn symud i Gaerdydd yn barhaus o rannau eraill o Gymru. Mae cynnydd yn y galw am addysg ddwyieithog a rhagor o ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd yn golygu y bydd cenhedlaeth newydd o bobl ifanc yn dod i oed gan ddisgwyl i’w mamiaith gael ei chydnabod. Mae hyn yn ogystal â’r nifer uchel o siaradwyr Cymraeg sydd wedi byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd.”

A dweud y gwir, rydym yn cytuno’n llwyr â hi. Dyna pam ein bod yn falch o gael opsiwn dwyieithog ar ein gwefan erbyn hyn, yn ogystal ag arwyddion Ar Werth/ Ar Osod dwyieithog ac arwyddion ffenestr yn y Gymraeg.

Rydym yn gwybod bod cryn daith o’n blaenau, ond rydym yn wirioneddol falch o gymryd y camau bychain cyntaf hyn a gwneud mwy o gyhoeddiadau yn y dyfodol